Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Neb wedi'i adael ar ôl: Mae Llais yn galw am weithredu brys ar iechyd a gofal gwledig yng Nghymru

NEWYDDION 1 Rhagfyr 2025

Yn ddiweddar, mae Llais wedi cyhoeddi sbotolau ar iechyd a gofal cymdeithasol gwledig, yn seiliedig ar yr hyn a glywsom drwy ein hymgysylltiad â phobl mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. 

Mae'r neges yn glir: mae cymunedau gwledig yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu, ac mae newid yn rhy araf.  

Er gwaethaf cynlluniau ac ymrwymiadau cenedlaethol, mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn dweud eu bod yn dal i wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael gofal. Nid yw'r heriau hyn yn newydd, ond maent yn dod yn fwy brys.  

Ni ddylid derbyn hyn fel “dyma fel mae pethau”.  

Yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrthym  

Mae pobl ledled cefn gwlad Cymru wedi rhannu eu profiadau, gan dynnu sylw at fylchau difrifol mewn gofal:  

  • Mynediad at ofal
  • Rhwystrau trafnidiaeth
  • Cymorth iechyd meddwl
  • Prinder gweithlu
  • Oediadau gofal brys  

Er gwaethaf yr heriau hyn, siaradodd pobl am wydnwch eu cymunedau a gwerth gofal unwaith y gallant gael mynediad ato. Maen nhw eisiau gwasanaethau sy'n haws eu cyrraedd, yn fwy cyson, ac wedi'u halinio'n well â realiti gwledig.  

Dywedodd Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais:  

“Mae’r lleisiau rydyn ni wedi’u clywed yn dangos bod cymunedau gwledig yn ddyfeisgar, ond gofynnir iddyn nhw wneud gormod i lenwi bylchau mewn gwasanaethau ffurfiol. Mae pobl eisiau gofal sy'n adlewyrchu realiti bywyd gwledig, nid modelau un maint i bawb. Rhaid i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru weithredu nawr i droi cynlluniau’n atebion ymarferol sy’n gweithio i gymunedau gwledig.”  

Darllenwch ein hadroddiad yn llawn yma: Sbotolau ar iechyd a gofal cymdeithasol gwledig yng Nghymru | Llais

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 1 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd diwethaf 1 Rhagfyr 2025