Ymateb Llais i gyhoeddiad Adolygiad Ockenden o wasanaethau mamolaeth
Mae Adolygiad Ockenden, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi canfyddiadau, casgliadau a chamau hanfodol yn dilyn yr Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Mamolaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Nottingham, gan dynnu sylw at brofiadau trallodus menywod a theuluoedd yn Lloegr.
Wrth ei wraidd mae lleisiau miloedd o deuluoedd sydd wedi profi colled, niwed a thrawma. Mae eu profiadau’n atgyfnerthu pam ei bod mor bwysig bod yr hyn y mae pobl yn ei rannu yn cael ei ddefnyddio i lywio gofal mwy diogel a chyson.
Mae llawer o'r materion a nodwyd yn yr adolygiad hwn - yn enwedig ynghylch gwrando ar fenywod, cyfathrebu, diwylliant sefydliadol a dysgu o ddigwyddiadau - yn adlewyrchu themâu yr ydym wedi'u clywed gan bobl yng Nghymru trwy ein gwaith ein hunain, a thrwy Asesiad Sicrwydd Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru Gyfan.
Dylai cysondeb y themâu hyn ar draws sawl adroddiad, ac ar draws gwahanol rannau o'r DU, wneud inni stopio a sylwi. Mae'n tanlinellu'r angen am gamau gweithredu parhaus, ffocwsedig i wella gofal i fenywod a theuluoedd.
Rydyn ni'n gwybod bod llawer o fenywod yng Nghymru yn derbyn gofal da, ond rydyn ni hefyd yn parhau i glywed lle mae profiadau'n methu.
Ers rhannu’r hyn a glywsom gan fenywod a’u teuluoedd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe'r llynedd, rydym wedi parhau i ddefnyddio profiadau pobl yn weithredol i lywio a dylanwadu ar ein gwaith gyda sefydliadau a phartneriaid y GIG, gan helpu i ysgogi gwelliant i fenywod a theuluoedd yng Nghymru.
Dywedodd Roxanne Treacy, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Mewnwelediad, ac arweinydd strategol Llais ar gyfer mamolaeth a newyddenedigol:
“Mae’r profiadau a nodir yn yr adroddiad hwn yn peri gofid mawr, ac mae ein meddyliau gyda’r menywod a’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Rydyn ni'n gwybod pa mor anodd y gall fod i bobl rannu'r hyn a ddigwyddodd iddyn nhw a'u hanwyliaid, a'r effaith y gall hyn ei chael. Mae mor bwysig bod y lleisiau hyn yn arwain at welliant ystyrlon a pharhaol.
“Byddwn yn parhau i gefnogi pobl yng Nghymru i rannu eu profiadau o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ac i ddefnyddio’r hyn a glywn yn weithredol i ddylanwadu ar welliannau mewn gofal.”
Os ydych chi'n byw yng Nghymru ac wedi cael eich effeithio gan y materion a godwyd yn yr adroddiad hwn, cysylltwch â ni. Gallwch rannu eich profiad neu gael mynediad at gymorth i godi pryder neu gŵyn.
Cysylltwch â Llais: [email protected] / 02920 235 558