Beth rydym ni’n ei wneud
Rydym yma i sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn defnyddio'ch safbwyntiau a'ch profiadau i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell. A phan aiff pethau o chwith gall ein heiriolwyr cwynion annibynnol a hyfforddedig eich cefnogi i wneud cwynion.
Rhaid i leisiau cryf pobl Cymru fod wrth galon system iechyd a gofal cymdeithasol effeithiol, wedi ei uno ar gyfer Cymru.
Newyddion Llais
Gweld yr holl newyddion
Tair ffordd y gallwch chi wneud gwahaniaeth
Ein hadroddiadau
Gweld pob cyhoeddiadMae Llywodraeth Cymru a Llais Cymru yn rhannu ymrwymiad i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn cydnabod nad yw’r Gymraeg yn ddim ond dull cyfathrebu – mae iaith person yn rhan sylfaenol o ddarparu gofal diogel, teg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn eu cefnogi.
Mae’r Adduned hwn yn sefydlu fframwaith ar gyfer cydweithio rhwng Tîm Mwy na geiriau yn Llywodraeth Cymru (sy’n cefnogi cyflawni cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau darpariaeth Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol) a Llais Cymru, corff llais y dinesydd yng Nghymru.
I hysbysu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent am faterion sy’n peri pryder ar hyn o bryd, ac arsylwadau cadarnhaol, neu atborth y cyhoedd y mae Llais Rhanbarthol Gwent yn mynd i’r afael â nhw mewn perthynas â chynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.