Fforwm Pobl Gorllewin Morgannwg
Ymunwch â ni ar gyfer Fforwm Pobl cyntaf erioed Gorllewin Morgannwg! Bydd y digwyddiad hwn yn arddangos ychydig o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan sefydliadau statudol a'r trydydd sector ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol sy'n gysylltiedig â'n blaenoriaethau rhanbarthol, gan gynnwys Cymorth i Ofalwyr Di-dâl (yn cynnwys lansiad y Strategaeth Gofalwyr Ranbarthol), Pobl Hŷn, Dementia, Iechyd Meddwl, Plant ag Anghenion Cymhleth, ac Anabledd Dysgu.
Mae’r digwyddiad yn agored i holl breswylwyr Gorllewin Morgannwg sydd â diddordeb mewn/profiad o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, Gofalwyr Di-dâl, a staff sy’n gweithio yn y sector.
Ymunwch â ni i ddathlu'r arfer da sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl a rhannwch eich barn ar sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys stondinau gwybodaeth a chyfle i ryngweithio.