Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Blaenoriaethau'r bobl: Senedd 2026 Llythyr gan ein Cadeirydd, Yr Athro Medwin Hughes
Mae'r maniffesto hwn yn nodi deuddeg diwygiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth wedi'u grwpio o dan bedair thema: ecwiti a mynediad, atal ac ymyrraeth gynnar, gofal person-ganolog, ac integreiddio gwasanaethau. Nid syniadau polisi haniaethol yw'r rhain. Newidiadau ymarferol a chyraeddadwy y dywedodd pobl wrthym y byddent yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'w profiad o iechyd a gofal cymdeithasol.
Blaenoriaethau’r bobl: Maniffesto Etholiad Senedd 2026
Mae Llais yn bodoli i hyrwyddo lleisiau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Dyna pam, ledled Cymru, mewn pentrefi, trefi a dinasoedd, rydym wedi gwrando ar ddegau o filoedd o bobl. Mewn neuaddau cymunedol, strydoedd mawr, ysgolion, meddygon teulu lleol, cartrefi gofal, ac ar-lein, mae pobl wedi rhannu eu profiadau, eu rhwystredigaethau, a’u gobeithion ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r maniffesto hwn wedi’i adeiladu ar y lleisiau hynny: blaenoriaethau’r bobl, yr hyn sydd bwysicaf, yr hyn fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’w bywydau, a’r hyn sydd angen newid.
Rhanbarth Llais Powys - Adroddiad Ymgysylltu Ardal Y Drenewydd - Ebrill 2025
Ym mis Ebrill 2025, cynhaliodd Llais Powys raglen ymgysylltu gymunedol ffocws yn ardal y Drenewydd - y nawfed mewn rhaglen dreigl sy'n cyd-fynd â model 13 ardal Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys. Y nod oedd casglu mewnwelediad lleol i brofiadau iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig lle mae pobl yn
defnyddio gwasanaethau yng Nghymru neu ar draws y ffin yn Lloegr.
Defnyddiwyd aml ddulliau gan gynnwys sgyrsiau wyneb yn wyneb, arolygon lleol (digidol ac ar bapur), a sesiynau galw heibio. Fe wnaethon ni ymgysylltu â grwpiau cymunedol, cynnal digwyddiadau dros dro, ac ymweld â meddygfeydd teulu, gan adeiladu ar bartneriaethau â sefydliadau lleol i chwyddo lleisiau
trigolion.
Hawdd i'w ddarllen - Rhanbarth Llais Powys - Adroddiad Ymgysylltu Ardal Y Drenewydd - Ebrill 2025
Ym mis Ebrill 2025, ymwelodd Llais Powys ag ardal y Drenewydd i siarad â phobl am eu profiadau gyda gofal iechyd a chymdeithasol.
Sbotolau ar iechyd a gofal cymdeithasol gwledig yng Nghymru
Mae Llais wedi bod yn clywed gan lawer o bobl mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru sydd wedi rhannu'r hyn maen nhw'n ei weld fel cryfderau ond hefyd yr anawsterau o ran cael mynediad at ofal iechyd a gofal cymdeithasol. Gyda thua 1 o bob 3 o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu fel rhai gwledig, mae'n bwysig bod y lleisiau hyn yn cael eu clywed a bod gweithredu arnynt er mwyn osgoi anghydraddoldebau iechyd pellach.