Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Adroddiad Yr hyn yr ydym wedi i glywed Llanfair-ym-Muallt
Yn ystod mis Tachwedd 2023, cynhaliodd Rhanbarth Llais Powys gyfnod o ymgysylltu â ffocws yn ardal Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd. Fe wnaethom fynychu 13 o wahanol leoliadau a siarad â phobl am eu barn a'u profiadau o dderbyn gwasanaethau iechyd a gofal.
Rhannodd rhai pobl brofiadau cadarnhaol, tra dywedodd eraill wrthym am yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau.
Yn dilyn y cyfnod hwn o ymgysylltu, cynhaliom weithdy ar y cyd â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys pan wnaethom dynnu sylw at brif themâu’r hyn a ddywedodd pobl wrthym. Mewn ymateb, buont yn trafod meysydd gwaith sydd eisoes ar y gweill a nodwyd rhai camau gweithredu a fydd yn cael eu cymryd.
Mae ein hadroddiad yn crynhoi'r hyn a glywsom a'r ymatebion a gawsom gan y Bwrdd Iechyd a'r Cyngor Sir.
Gwneud cwyn amdanom ni
Rydym yn cydnabod nad ydym yn gwneud popeth yn iawn bob tro. Os oes rhywbeth wedi mynd o’i le, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni, cyn gynted ag y bo modd. Gallwn ymdrin â chwynion ynghylch y ffordd yr ydym yn cyflawni ein gweithgareddau, gan gynnwys cwynion am aelodau o’n staff neu bobl sy’n gweithio ar ein rhan.
Mae’n bosib byddwch yn dymuno llenwi’r ffurflen hon, i roi gwybod i ni am eich cwyn.