Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Addroddiad Prosiect Dementia
Dros 8 wythnos, ymwelodd Llais Castell-nedd, Port Talbot ac Abertawe â 17 lleoliad gwahanol i siarad â phobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'u hanwyliaid.
Llais Gwent Crynodeb Ymgysylltu - Cartref Gofal Preswyl Tŷ Penpergwm
Fel rhan o'n cynllun gwaith lleol, mae Llais Rhanbarth Gwent wedi ymrwymo i ymgysylltu â phobl ar y pwynt maen nhw'n derbyn gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, gwnaethom drefnu i ddau o'n gwirfoddolwyr ymweld fynd i Gartref Penpergwm (Cartref Preswyl) i siarad â phobl sy'n byw yno, i gael eu hadborth am sut brofiad yw aros yn Nhŷ Penpergwm, a'u mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.