Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog Llais
Mae'r Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog (CAS) hyn yn manylu ar y cyfrifoldebau ariannol sy'n berthnasol i bawb sy'n gweithio i Llais. Nid ydynt yn rhoi cyngor gweithdrefnol manwl a dylid eu darllen ar y cyd â'r nodiadau gweithdrefnol adrannol a rheolaeth ariannol manwl.
Rheolau Sefydlog Llais
Mae Rheolau Sefydlog Llais wedi eu gwneud gan y Bwrdd. Lle bo’n berthnasol, bydd y Rheolau Sefydlog hyn yn cael eu darllen a’u dehongli ynghyd â phwerau a swyddogaethau statudol y sefydliad.