Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024-2025
Yn ein hail flwyddyn, mae Llais wedi cynyddu ei rôl fel llais annibynnol y bobl ym maes iechyd a gofal cymdeithasol drwy glywed gan fwy na 40,000 o bobl ledled Cymru. O wasanaethau mamolaeth a gofal brys i gefnogaeth i ofalwyr a mynediad at ddeintyddiaeth, mae pobl wedi rhannu eu profiadau gyda gonestrwydd, brys a gobaith. Y tu ôl i bob llais mae stori, a thu ôl i bob stori mae gwers i’w dysgu neu alwad i weithredu.
Ac rydym wedi gweithredu. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun clir o’n gwaith a’n heffaith.
Ymateb Llais i ymgynghoriad: Strategaeth genedlaethol ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin rhywiol plant
Rydym wedi bod yn gweithredu yng Nghymru ers 1 Ebrill 2023. Mae ein hymateb yn tynnu ar yr hyn rydyn ni wedi'i glywed gan bobl am eu profiadau o wasanaethau iechyd a chymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn. Mae'n adlewyrchu ein rôl o ran cefnogi pobl drwy eiriolaeth cwynion, ein gweithgareddau ymgysylltu ehangach, a gwneud cynrychioliadau i wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys diogelu, gwasanaethau cymorth ac integreiddio systemau.
Ymateb Llais i'r ymgynghoriad ar Asesu, Polisi a Gweithdrefn Lleihau Clymau
Wrth ddatblygu ein hymateb i'r ymgynghoriad hwn, rydym wedi ymgynghori â'n timau ymgysylltu â'r cyhoedd, a'n gwasanaeth eiriolaeth cwynion.
Ymateb Llais i God Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig
Yn gynharach eleni, fe wnaethon ni ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch Cod Ymarfer newydd. Mae'r Cod hwn yn nodi sut y dylai cynghorau, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG wirio ansawdd gwasanaethau gofal, delio â phroblemau, a rheoli cau gwasanaethau.