Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Llais ac Iaith - Adduned ar y Cyd rhwng Mwy na geiriau a Llais
Mae Llywodraeth Cymru a Llais Cymru yn rhannu ymrwymiad i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn cydnabod nad yw’r Gymraeg yn ddim ond dull cyfathrebu – mae iaith person yn rhan sylfaenol o ddarparu gofal diogel, teg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn eu cefnogi.
Mae’r Adduned hwn yn sefydlu fframwaith ar gyfer cydweithio rhwng Tîm Mwy na geiriau yn Llywodraeth Cymru (sy’n cefnogi cyflawni cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau darpariaeth Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol) a Llais Cymru, corff llais y dinesydd yng Nghymru.
Ffurflen Atgyfeirio Eiriolaeth Proffesiynol
Ffurflen Atgyfeirio Broffesiynol ar gyfer Eiriolaeth Cwynion Iechyd a Gofal Cymdeithasol Annibynnol.
Mae'r ffurflen hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n helpu rhywun i wneud cwyn am y GIG neu wasanaeth GIG, neu Wasanaeth Gofal Cymdeithasol Awdurdod Lleol. Gellir ei ddefnyddio hefyd os yw'r person eisoes yn gwneud cwyn, neu os ydynt yn ei gwneud ar ran rhywun arall.
Dim ond os digwyddodd y mater/digwyddiad o fewn y 12 mis diwethaf (neu os ydynt wedi cael gwybod amdano yn ystod y 12 mis diwethaf) y gellir gwneud cwyn ac nad yw wedi cael ei ymchwilio o'r blaen.