Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Dweud eich dweud ar sut y gall Llais weithio gyda phobl Cymru ar gyfer gwell gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn darn pwysig o waith sy'n cael ei wneud dros yr wythnosau nesaf, a gobeithiwn y bydd o ddiddordeb i chi. 

Mae Llais yn gorff statudol annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llawer mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol - yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud.

Fel rhan o'n cynllun 100 diwrnod a lansiwyd yn ddiweddar, rydym am gael sgwrs genedlaethol gyda phobl ym mhob rhan o Gymru, i weithio gyda ni i'n helpu i ddatblygu ein gweledigaeth, cenhadaeth a blaenoriaethau strategol. 

Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan yn y gwaith parhaus hwn.  Rydym am i chi rannu eich barn ar yr hyn rydych chi'n credu sydd angen digwydd, a sut y gallwch chi weithio gyda ni, i sicrhau bod ein gweithgareddau'n golygu bod eich barn a'ch profiadau yn cael eu defnyddio gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell.

Bydd yr hyn a ddywedwch wrthym yn ein helpu i nodi'r cyfeiriad a'r blaenoriaethau ar gyfer gwaith Llais yn y dyfodol yn y blynyddoedd i ddod a helpu i sicrhau ei fod yn gweithio i bawb, ym mhob rhan o Gymru.

Os hoffech drafod y gwaith yn fanylach, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â'r uchod, cysylltwch â ni drwy e-bostio ni

Mae croeso i chi rannu'r gwahoddiad hwn gyda'ch ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr; rydym am glywed gan amrywiaeth mor eang â phosibl o bobl.