Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Ymateb Llais i Gynllun Gwasanaethau Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Mae Llais wedi cyflwyno ymateb manwl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch ei Gynllun Gwasanaethau Clinigol (CSP).
Mae ein hymateb yn adlewyrchu’r hyn y mae pobl ar draws Gorllewin Cymru, De Gwynedd a Phowys wedi’i rannu gyda ni drwy gydol y broses ymgynghori ac ymgysylltu.
Mae Llais yn ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda cyn penderfyniadau ar y CSP
Mae Llais wedi ysgrifennu at Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda cyn y cyfarfod cyhoeddus eithriadol i drafod y Cynllun Gwasanaethau Clinigol (CSP).
Sbotolau ar iechyd a gofal cymdeithasol gwledig yng Nghymru
Mae Llais wedi bod yn clywed gan lawer o bobl mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru sydd wedi rhannu'r hyn maen nhw'n ei weld fel cryfderau ond hefyd yr anawsterau o ran cael mynediad at ofal iechyd a gofal cymdeithasol. Gyda thua 1 o bob 3 o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu fel rhai gwledig, mae'n bwysig bod y lleisiau hyn yn cael eu clywed a bod gweithredu arnynt er mwyn osgoi anghydraddoldebau iechyd pellach.
Rhanbarth Gorllewin Cymru - Adroddiad Anableddau Dysgu Mawrth 2025
Gwyddom nad ydym yn aml yn clywed gan bobl ag anableddau dysgu am eu barn a’u profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn golygu bod angen i ni wneud mwy o ymdrech i ganfod eu barn a’u profiadau . Yn lle aros i bobl gysylltu â Llais i rannu eu barn, mae angen i ni gwrdd â phobl ag anableddau dysgu, eu gofalwyr , ffrindiau, teuluoedd ac eraill, i weld beth y gallwn ei ddarganfod a beth maent am ei rannu gyda ni.