Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Rhanbarth Gogledd Cymru - Adroddiad Ymgysylltu Llais Lleol Sir Ddinbych - Ionawr - Mawrth 2026
Fel rhan o’n cynllun gwaith, ymgymerodd Llais Gogledd Cymru â gwaith i ymgysylltu â dinasyddion ledled Sir Ddinbych. Gwnaethom hyn rhwng 01 Chwefror a 30 Mawrth. Byddai cynnal Llais Lleol yn Sir Ddinbych yn rhoi cyfle i ni gasglu barn a phrofiadau dinasyddion y sir o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Gofal iechyd trawsffiniol: yr heriau allweddol i bobl sy'n byw yng Nghymru sy'n cael gofal y GIG yn Lloegr
Ym mis Ionawr 2025 fe ddarparom ni dystiolaeth o'r hyn yr oeddem yn ei glywed am ofal iechyd trawsffiniol. Ychydig dros
Sbotolau ar iechyd a gofal cymdeithasol gwledig yng Nghymru
Mae Llais wedi bod yn clywed gan lawer o bobl mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru sydd wedi rhannu'r hyn maen nhw'n ei weld fel cryfderau ond hefyd yr anawsterau o ran cael mynediad at ofal iechyd a gofal cymdeithasol. Gyda thua 1 o bob 3 o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu fel rhai gwledig, mae'n bwysig bod y lleisiau hyn yn cael eu clywed a bod gweithredu arnynt er mwyn osgoi anghydraddoldebau iechyd pellach.