Cwm Taf Morgannwg
Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol:
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Rhondda Cynon Taf
- Merthyr Tudful
Llais - Rhanbarth Cwm Taf Morgannwg
Tŷ Antur, Tŷ Menter, Parc Llywio, Abercynon
Aberpennar
CF45 4SN

Yr hyn a wnawn
Mae Llais Rhanbarth Cwm Taf Morgannwg yma i wneud yn siŵr bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn defnyddio’ch barn a’ch profiadau i gynllunio a darparu gwell gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn eich ardal leol.
Rydym yn clywed gan y cyhoedd mewn llawer o wahanol ffyrdd. Rydym yn ymweld â'r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol i siarad â chleifion, preswylwyr a gofalwyr. Rydym yn siarad â phobl mewn digwyddiadau cyhoeddus, a thrwy grwpiau cymunedol.
Mae ein Gwasanaeth Eiriolaeth yn helpu pobl sydd eisiau codi pryder am ofal neu driniaeth.
Rydyn ni'n defnyddio arolygon, apiau a chyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â'n cymuned, ac rydyn ni'n cynhyrchu adroddiadau ar yr hyn rydyn ni wedi'i glywed.
Adroddiadau diweddar
Gweld pob cyhoeddiadYm mis Mehefin 2025, fe wnaethon ni siarad a bron i 400 o bobl mewn mannau fel hybiau cymunedol, meddygfeydd teulu, ysbyty cymunedol ac ysgol arbennig

Ydych chi'n defnyddio gwasanaethau'r GIG neu ofal cymdeithasol?
Yna gallwch chi helpu i'w gwneud yn well i bawb trwy ddweud wrthym am eich profiadau - da a drwg.
Codi pryder am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
Pan aiff pethau o chwith, gall codi eich pryder ymddangos yn “gam yn rhy bell” neu’n cymryd gormod o amser, yn enwedig gan y gallai fod ar adeg arbennig o anodd.
Ond mae codi eich pryder yn y ffordd gywir yn bwysig. Gall wneud gwahaniaeth cadarnhaol i eraill, gan atal yr un peth rhag digwydd iddynt a sicrhau bod ein gofal yn y dyfodol yn well.
Gallwn helpu gydag eiriolaeth cwynion
Os oes angen i chi godi pryder am wasanaeth GIG neu ofal cymdeithasol, gallwch siarad â ni. Bydd ein staff eirioli cwynion ymroddedig, hyfforddedig yn darparu'r cymorth annibynnol a chyfrinachol am ddim y mae gennych hawl iddo.
Cysylltwch â ni ar
01443 405830
neu e-bostiwch ni ar [email protected]
a bydd un o'n tîm yn siarad â chi am eich pryder, pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch yn eich barn chi ac os oes gennych unrhyw anghenion penodol megis deunyddiau print bras neu fynediad at rywun sy'n gallu llofnodi.
Yn angerddol am iechyd a gofal cymdeithasol?
Cymerwch ranYn Llais, rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru i glywed gan bobl am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Po fwyaf o bobl sy’n ymwneud â ni, y gorau fydd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol – ac mae llawer o ffyrdd i ymuno â ni mewn ffordd sy’n addas i chi.