Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Adroddiad Ein 100 Diwrnod Cyntaf

Yn ein 100 diwrnod cyntaf, rydym wedi bod yn gwrando ar bobl a'u cynrychiolwyr sy’n byw ac yn gweithio i'n cymunedau ledled Cymru. Rydym wedi bod yn gwrando ar bobl sy'n gyfrifol am ddylunio, darparu a gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gwrando ar ein staff a'n gwirfoddolwyr. 

Cyflwyniad

Ers Ebrill 2023 mae pobl Cymru wedi cael corff annibynnol newydd. Sefydlwyd Llais gan Lywodraeth Cymru i godi grym a dylanwad lleisiau pobl sy'n byw yng Nghymru wrth lunio ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.  

Yn ein 100 diwrnod cyntaf, rydym wedi bod yn gwrando ar bobl a'u cynrychiolwyr sy’n byw ac yn gweithio i'n cymunedau ledled Cymru. Rydym wedi bod yn gwrando ar bobl sy'n gyfrifol am ddylunio, darparu a gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gwrando ar ein staff a'n gwirfoddolwyr.  
Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cymryd yr amser i siarad â ni hyd yn hyn.  Rydym wedi clywed am y pethau sydd bwysicaf i chi am ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys y pethau rydych chi wedi'u dweud wrthym ni sy'n gweithio'n dda a'r pethau sydd ddim. 

Rydym wedi clywed beth yw eich barn am gynlluniau i newid gwasanaethau, ac rydym wedi rhannu'r hyn yr ydym wedi'i glywed fel bod cynllunwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn gweithredu lle mae angen iddynt wneud hynny. Rydym wedi clywed syniadau pobl am yr hyn y dylem ganolbwyntio ein sylw arno, a sut y dylem gynnal ein gweithgareddau. Rydym wedi clywed sut y gallwn gydweithio mewn partneriaeth ag eraill i sicrhau bod eich lleisiau'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Yr hyn sydd wedi bod yn glir yn ein holl weithgareddau yw pa mor bwysig yw'r system iechyd a gofal cymdeithasol i bawb sy'n byw yng Nghymru, yn ystod y 75ain flwyddyn hon o'n Gwasanaeth Iechyd Gwladol. 
Rydym wedi clywed bod yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy nag yr ydym wedi'i weld yn ystod ein hoes. 
Mae'r rhan rydyn ni i gyd yn ei chwarae yn eu dyfodol yn hanfodol. Gwrando a gweithredu ar leisiau pobl yw'r allwedd i hyn. 

Mae'r adroddiad hwn yn rhannu'r hyn yr ydym wedi'i glywed a'i wneud yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf.
 

Delwedd
Prof M Hughes

Yr Athro Medwin Hughes - Cadeirydd, Llais 

Sefydlu sylfaen gadarn

Yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf o ymgysylltu, fe wnaethom ddweud ein bod am weithio gyda phobl yng Nghymru i adeiladu sylfaen gref lle mae parch at y naill a'r llall, cynwysoldeb ac annibyniaeth yn gyrru popeth a wnawn.  
Fe wnaethom ddweud y byddem yn gweithio gyda phobl, cymunedau a'n partneriaid ym mhob rhan o Gymru i'n helpu i benderfynu sut y dylem weithio gyda'n gilydd a gydag eraill i roi llais cryfach i bobl yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Dyma rai o'r pethau rydyn ni wedi'u gwneud.

Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'n sefydliad

Buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyfathrebu i ddatblygu a lansio ymgyrch farchnata aml-gyfrwng i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'n rôl annibynnol wrth ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.  
Gan adeiladu ar yr ymgyrch gychwynnol, gwnaethom greu a defnyddio pob cyfle a gawsom i ymgysylltu â chymaint o bobl, cymunedau, sefydliadau a chynrychiolwyr ag y gallwn. Mae rhai o'r pethau rydym wedi'u gwneud yn cynnwys: 

  • Mynd i ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol a chenedlaethol. Roedd hyn yn cynnwys llefydd fel Parti yn y Parc gan Gyngor Cymuned Pont-y-pŵl, Digwyddiad Mawr Cwmbrân, Canolfan Ieuenctid y Trallwng a Charnifal a Pride Abertawe. Aethom i rai digwyddiadau cenedlaethol fel yr Eisteddfod Ryngwladol a Pride Cymru
  • Rhannu gwybodaeth a siarad ag ystod eang o gynrychiolwyr a grwpiau cymunedol. Fe wnaethom ofyn iddyn nhw ddweud wrth eraill amdanom ni fel y gallen nhw roi gwybod i ni beth sy'n bwysig iddyn nhw. Roedd hyn yn cynnwys rhai Fforymau Iechyd a Gofal a Phobl rhanbarthol a'r Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol.  

Roedd yn cynnwys pobl, grwpiau a chyrff sy'n cefnogi'r rhai ohonom sy'n cael eu tangynrychioli neu a allai fod ag anghenion iechyd a gofal penodol, er enghraifft Cymru Ddiogelach (Streetwise) yng Nghaerdydd, Canolfan Gymunedol Affrica yn Abertawe, a'r Comisiynwyr Plant a Phobl Hŷn 

  • Cyflwyno a chynnal gweithdai mewn rhai cynadleddau a digwyddiadau lleol a chenedlaethol.  Roedd hyn yn cynnwys pethau fel Panel Dinasyddion Gwent, Fforwm Gofalwyr Cymru a chynhadledd Comisiwn Bevan 'The Tipping Point: Where next for health and care?' 
  • Buom yn gweithio gyda'n partneriaid yn y GIG, awdurdodau lleol a'r trydydd sector i ddatblygu a chytuno ar y ffordd orau o roi gwybod i bobl amdanom ni a beth allwn ei wneud.  amdanom ni a beth allwn ei wneud.  

Datblygu ein gweledigaeth, cenhadaeth a blaenoriaethau strategol

Fe wnaethom ofyn i Rwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru i weithio gyda ni i gyrraedd ein cymunedau a chlywed beth sydd bwysicaf i chi am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol, a'r pethau rydych chi'n meddwl y dylen ni feddwl amdanyn nhw a'u gwneud pan fyddwn ni'n cyflawni ein gweithgareddau. 

Rydym wedi gwneud hyn mewn sawl ffordd wahanol.

Delwedd
Woman talking to a multi-racial group

Rydym wedi:

  • lansio arolwg cenedlaethol, a dosbarthu pecynnau hwyluso i helpu pobl ddod at ei gilydd a rhannu eu hadborth gyda ni fel rhan o grŵp
  • trefnu 7 gweithdy ymgysylltu rhithwir rhanbarthol, a chynnal yr un cyntaf ar gyfer pobl sy'n byw yng Ngwent. Mae'r digwyddiadau yn y rhanbarthau eraill wedi'u trefnu ar gyfer Gorffennaf 2023
  • gofyn i bobl sydd wedi defnyddio ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion beth oeddent yn ei feddwl o'n gwasanaeth, a'u syniadau a'u hawgrymiadau ar sut y gallai fod angen i ni wneud pethau'n wahanol
  • defnyddio ein gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus ac ehangach yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i annog pobl a sefydliadau i rannu eu barn, eu syniadau a'u hawgrymiadau ar y pethau sydd bwysicaf iddynt.
     

Gwnaethom hefyd wrando ar yr hyn a ddywedodd y cyn Gynghorau Iechyd Cymuned wrthym am y blaenoriaethau a'r gweithgareddau yr oeddent yn meddwl oedd yn bwysig i bobl sy'n byw yn y cymunedau yr oeddent yn eu gwasanaethu. Rydym wedi cyhoeddi'r prif bethau y dywedon nhw y dylen ni fod yn rhan ohonyn nhw. Gallwch ddarganfod mwy ar y ddolen yma.

Hyd yn hyn, rydym wedi clywed pa mor bwysig yw'r pethau canlynol i bobl:

Newid

Mae’r rhai y clywsom ganddynt eisiau Llais i:

  • fod yn uchelgeisiol yn ei ddull ac yn glir ar ei bwrpas
  • wella darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol i ddinasyddion Cymru
  • sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn seiliedig ar argymhellion Llais
  • ganolbwyntio ar yr hyn sy'n gweithio'n dda, yn ogystal â'r hyn nad yw'n gweithio

"Sefydlu enw da am wneud gwahaniaeth / effaith mewn gwirionedd - nid dim ond anelu ato"

Annibyniaeth

Mae’r rhai y clywsom ganddynt eisiau Llais i:

  • fod yn annibynnol ar ddylanwad gwleidyddol/cyllidwr 
  • allu dwyn darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gyfrif

 "Mae angen i Llais fod yn eiriolwr cywir dros brofiad cleifion ac nid cael ei ddylanwadu gan ddylanwadau gwleidyddol neu ariannol"

Delwedd
Diverse Women Volunteers image

Rhwydweithiau

Mae’r rhai y clywsom ganddynt eisiau Llais i:

  • gael eu hymgorffori yn y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu
  • weithio ar y cyd â phartneriaid traws-sector i sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl
  • ddefnyddio rhwydweithiau i rannu gwybodaeth am gyfleoedd cyfranogi e.e. meddygfeydd, fferyllfeydd, byrddau iechyd
  • feithrin perthnasoedd cryf a dibynadwy gyda'r sector cyhoeddus, gyda phobl a gyda'r trydydd sector a grwpiau cynrychioliadol
  • ddatblygu ei rwydwaith gwirfoddoli i gynyddu cynrychiolaeth o wahanol ddemograffeg

"Fe fyddai’n ddefnyddiol i Llais ymgysylltu â chyrff cynrychioliadol sy'n cefnogi'r rhai na chlywir ganddynt yn aml a'r rhai sydd angen cymorth i ymgysylltu."

Perthynasau

Mae’r rhai y clywsom ganddynt eisiau Llais i:

  • ddangos eu bod yn poeni am y bobl sy'n rhannu eu profiadau gyda nhw
  • feithrin perthnasoedd cryf a dibynadwy gyda'r sector cyhoeddus, gyda phobl a gyda'r trydydd sector a grwpiau cynrychioliadol
  • ddefnyddio perthnasoedd i ddylanwadu ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol rhwng unigolion a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol

"Rhaid i unigolion deimlo'n hyderus i rannu profiadau cleifion (nid cwyn) a all helpu i hysbysu/dylanwadu ar newid"

Cyfathrebu

Mae’r rhai y clywsom ganddynt eisiau Llais i:

  • wrando ar bobl, yn enwedig y rhai nad ydynt yn cael eu clywed yn aml
  • hyrwyddo gwasanaeth Llais yn eang i sicrhau bod pawb yn ymwybodol ohonom a sut i gael mynediad atom
  • ddefnyddio iaith di-jargon mewn cyfathrebu
  • ddarparu gwybodaeth mewn amrywiaeth o fformatau e.e. wyneb yn wyneb, cyfryngau cymdeithasol, fideos, dulliau creadigol, braille, recordiadau sain
  • sicrhau ymgysylltiad ystyrlon â phobl drwy gyfathrebu parhaus, bod yn agored ac yn onest a rheoli disgwyliadau
  • rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad cyfranogiad y cyhoedd, gan rannu'r gwahaniaeth y mae pobl wedi'i wneud

"Mae Tsieineaid yn gymharol dawel ac fel arfer yn dewis dioddef yn dawel yn hytrach na chodi lleisiau. Rydyn ni'n fach o gymharu â phobl leiafrifol eraill yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd Llais yn gwrando arnom ac yn ein cefnogi i gael y pethau sylfaenol y mae pawb yn eu cael."

 Hygyrchedd

Mae’r rhai y clywsom ganddynt eisiau Llais i:

  • ddarparu amrywiaeth o opsiynau ar gyfer cynnwys pobl, e.e. digwyddiadau y tu allan i oriau gwaith
  • gynnal digwyddiadau mewn lleoliadau hygyrch 
  • ddarparu gwybodaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd e.e. hawdd ei ddeall, British Sign Language, amrywiaeth o ieithoedd cymunedol

"Bod yn barod i gymryd amser a defnyddio llawer o sianeli i gyfathrebu"

Cyd-gynhyrchu

Mae’r rhai y clywsom ganddynt eisiau Llais i:

  • ddefnyddio dull cyd-gynhyrchiol, sy'n cynnwys pobl mewn dylunio a darparu gwasanaethau ar y camau cynharaf 
  • sicrhau bod pŵer yn gytbwys rhwng gweithwyr proffesiynol a phobl sydd angen gwasanaethau
  • gyd-gynhyrchu gweithgareddau ymgysylltu pan fo hynny'n bosibl.

"Mae angen iddo fod yn broses gydweithredol"

Delwedd
Diverse people having fun together outdoor

Rydym hefyd wedi clywed pa mor bwysig yw hi ein bod yn cymryd camau i osgoi'r pethau a all atal pobl rhag cymryd rhan:

  • Ymgysylltiad symbolaiddRhaid i Llais osgoi ymarferion 'ticio’r blwch' a gorddibynnu ar leisiau unigol i gynrychioli cymunedau cyfan
  • Lleisiau dominyddolRhaid i Llais sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed yn gyfartal, trwy fynd ati i chwilio am leisiau tawelach a chadeirio digwyddiadau yn effeithiol
  • Dull digidol yn gyntafRhaid i Llais ystyried y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn eu cyfathrebu a'u cynllunio
  • Diffyg paratoiRhaid i Llais roi digon o amser a gwybodaeth i bobl gymryd rhan 
  • HygyrcheddRhaid i Llais ystyried mynediad i bawb wrth gynllunio digwyddiadau neu weithgareddau ymgysylltu e.e. lleoliadau sy'n hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus, lleoliadau y gellir eu cyrraedd gan gadair olwyn
  • Blinder ymgynghori: Dylai Llais edrych ar strategaethau ymgysylltu/data presennol sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol eraill er mwyn osgoi dyblygu gweithgareddau a gorymgynghori gydag unigolion.

Byddwn yn defnyddio'r hyn yr ydym wedi'i glywed hyd yn hyn i wirio a yw'r pethau yr ydym eisoes wedi'u gwneud i ddatblygu ein ffyrdd o weithio yn cyd-fynd â'r hyn y mae pobl ei eisiau, ac i'n helpu i nodi ein gweledigaeth, cenhadaeth a strategaeth tymor hwy. 

Mae gennym lawer mwy i'w wneud.  Mae angen i ni wneud mwy i glywed gan bobl nad yw eu lleisiau'n cael eu cynrychioli'n ddigonol, gan gynnwys plant a phobl ifanc a phobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. 

Gallwch barhau i rannu eich adborth, syniadau ac awgrymiadau ar y pethau y dylem eu gwneud a'r ffordd y dylem eu gwneud. 

Gallwch wneud hyn mewn gwahanol ffyrdd. Darganfyddwch fwy ar y ddolen yma

Creu ffyrdd syml, hygyrch i bobl gysylltu â ni a derbyn ein gwasanaethau

Rydym wedi clywed pa mor bwysig yw hi eich bod yn gallu cysylltu â ni a derbyn ein gwasanaethau mewn gwahanol ffyrdd sy'n diwallu eich anghenion unigol orau. Rydym wedi meddwl am y pethau y gallwn eu gwneud i'w gwneud hi'n hawdd i chi ymgysylltu â ni pryd a sut rydych chi eisiau. 

Delwedd
Little boy with down syndrome enjoy spending time with mother and watching mobile phone

Rydym wedi nodi hyn mewn datganiad. Gallwch ddarganfod mwy drwy'r ddolen yma. Mae rhai o'r pethau rydym wedi'u gwneud yn cynnwys:

  • sicrhau bod gennym bresenoldeb cryf a rhanbarthol ledled Cymru, fel y gallwch gysylltu â ni yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.  Mae gennym swyddfeydd mewn 12 lleoliad:

Abercynon
Aberdaugleddau
Aberonddu
Aberystwyth
Caerdydd
Caerfyrddin
Castell-nedd
Cwmbran
Y Drenewydd
Wrecsam

  • dod o hyd i leoedd mewn cymunedau lleol lle gallwch gysylltu â ni yn bersonol drwy ein gweithgareddau 'allgymorth'. Er enghraifft, yn rhanbarth Gwent bydd ein tîm ar gael cyn bo hir i gwrdd â chi ar ddiwrnodau a hysbysebir mewn 5 llyfrgell leol 
  • lansio ein gwefan. Rydym wedi darparu rhywfaint o wybodaeth allweddol a ffyrdd y gallwch gysylltu â ni. Rydym hefyd wedi ychwanegu cynnwys mewn ymateb i'r adborth a gawsom hyd yn hyn hyn. Mae ein gwefan yn dal i gael ei datblygu
  • cyflwyno ffyrdd newydd o ymgysylltu â chymunedau gan ddefnyddio ystod o offer ymgysylltu ar-lein newydd. 
  • Mae gennym lawer mwy i'w wneud. Rydym am glywed eich adborth, syniadau ac awgrymiadau ar y gwahanol ffyrdd y gall pobl gysylltu â ni, cymryd rhan a derbyn ein gwasanaethau.  

Mae gennym lawer mwy i'w wneud. Rydym am glywed eich adborth, syniadau ac awgrymiadau ar y gwahanol ffyrdd y gall pobl gysylltu â ni, cymryd rhan a derbyn ein gwasanaethau. 

Gallwch wneud hyn mewn gwahanol ffyrdd. Darganfyddwch fwy am sut i ddweud eich dweud ar ein gwefan 

Gweithio mewn partneriaeth

Bydd datblygu ein cysylltiadau a gweithio'n dda gydag eraill yn rhoi'r cyfle gorau i ni leisio'ch barn a gwneud y gwahaniaeth mwyaf i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy'n byw yng Nghymru. 

Felly, yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf fe dreulion ni amser yn siarad â llawer o sefydliadau eraill sy'n ymwneud â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Buom yn siarad am gyfleoedd i gydweithio ar y pethau y mae gennym ddiddordeb cyffredin ynddynt; cytuno ar drefniadau i rannu gwybodaeth a chyfeirio materion ar; a sut y gallwn gynnwys ein gilydd wrth benderfynu beth a sut y dylid gwneud pethau - fel bod pobl sy'n byw yng Nghymru yn gallu cael y gofal sydd ei angen arnynt pan fyddant ei angen yn y ffordd y maent ei angen. 

Rydym wedi:

  • siarad ag ystod eang o gynrychiolwyr, trydydd sector a sefydliadau a grwpiau eraill sy'n gweithio'n galed i godi llais dros bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn meysydd penodol neu ag anghenion a gofynion penodol.  Roedd hyn yn cynnwys, er enghraifft:
    • cytuno i gydweithio gyda Pobl yn Gyntaf Sir Benfro i weld pa mor hawdd yw hi i bobl ag anabledd dysgu ddod o hyd i'w ffordd o amgylch gwasanaethau iechyd lleol
    • cytuno i rannu gwybodaeth a chydweithio â'r Comisiynydd Pobl Hŷn i ddarganfod mwy am brofiadau pobl hŷn o gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd yn eu cymuned, gan gynnwys gweld eu meddyg teulu
    • archwilio cyfleoedd gydag Age Cymru a'r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol i'n helpu i ddarparu dysgu a chymorth i'n staff a'n gwirfoddolwyr i weithio gyda phobl a'u cefnogi mewn ffyrdd newydd 
    • gweithio gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i gyflwyno trefniadau newydd ar gyfer ein timau eiriolaeth cwynion i gefnogi pobl i fynegi eu pryderon pan fyddant yn anhapus â'r ffordd y mae cyrff y GIG neu awdurdodau lleol wedi delio â chwyn
  • cwrdd â chyrff y GIG ac awdurdodau lleol ledled Cymru, i drafod a chytuno ar y ffordd orau o gydweithredu a gweithio gyda'i gilydd a gyda chymunedau i glywed gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'u gyrru. Roedd hyn yn cynnwys pethau fel:
    • ein cyfranogiad yng nghyfarfodydd bwrdd, pwyllgorau a gweithgorau'r GIG
    • adeiladu cysylltiadau â phwyllgorau craffu awdurdodau lleol a thimau gwasanaethau cymdeithasol
    • ein rôl a'n cyfranogiad mewn cynlluniau a chynigion i ddatblygu a newid y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu
    • bod yn rhan o weithgareddau'r 7 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yng Nghymru
    • datblygu ffyrdd y gall cynllunwyr a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ddod at ei gilydd a siarad â ni a chymunedau lleol am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • gweithio gyda rheoleiddwyr ac arolygiaethau iechyd a gofal cymdeithasol i feddwl am sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o rolau a gweithgareddau ein gilydd, cytuno ar drefniadau i rannu gwybodaeth â'i gilydd a chyfeirio pethau arnynt pan fo angen gweithredu. Roedd hyn yn cynnwys siarad â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
  • gweithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi a chytuno ar y ffyrdd gorau o gysylltu â'i gilydd; Datblygu'r fframwaith ymhellach sy'n cefnogi ein rôl a'n cylch gwaith, a chymryd rhan yn ei waith ar faterion iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd hyn yn cynnwys pethau fel:
    • cytuno ar drefniadau i gwrdd yn rheolaidd â swyddogion Llywodraeth Cymru i rannu gwybodaeth am yr hyn rydym yn ei glywed gan bobl am eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r hyn sydd angen digwydd mewn ymateb
    • rhoi adborth ar y canllawiau ynghylch sut y byddwn ni, cyrff y GIG ac awdurdodau lleol yn gwneud ein gwaith, gan gynnwys ar newidiadau i wasanaethau'r GIG.  Gallwch weld ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cod Ymarfer drafft ar Fynediad i Adeiladau ar y ddolen yma
    • arrangements to be part of some national programmes and groups, including the National Office for Care and Support Steering Group and the Strategic Programme for Primary Care
  • estyn allan i gynrychiolwyr a chyrff eraill y DU sy'n ymwneud â chryfhau lleisiau pobl mewn iechyd a gofal cymdeithasol, fel y gallem siarad am ffyrdd y gallwn gydweithio ar y pethau sy'n effeithio ar bobl ledled y DU. Roedd hyn yn cynnwys Healthwatch England, y Cyngor Cleifion a Chleientiaid, Healthcare Improvement Scotland, y Gymdeithas Cleifion, y Comisiynydd Diogelwch Cleifion yn Lloegr a'r Awdurdod Safonau Proffesiynol.

Gwnaethom hefyd rannu'r hyn y mae pobl yn ei feddwl am eu gwasanaethau GIG, a sut mae gwasanaethau'r GIG yn ymateb i ddiwallu anghenion pobl trwy ein cyfranogiad mewn cyfres o Uwchgynadleddau Gofal Iechyd, a hwylusir gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a chynnwys ystod eang o sefydliadau partner sy'n ymwneud â sbarduno gwelliant yng ngwasanaethau'r GIG i bobl sy'n byw yng Nghymru. 

Mae ein hymgysylltiad â'n partneriaid wedi rhoi cyfleoedd gwych i ni weithio'n gryfach gyda'n gilydd, yn barhaus ac ar rai meysydd gweithgarwch allweddol.  Byddwn yn bwrw ymlaen â'r cyfleoedd hyn yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Delwedd
Diverse people having fun together outdoor

 Datblygu ein hunain i gyflawni 

Mae ein staff a'n gwirfoddolwyr gwych sydd wedi ymuno â ni yn Llais wedi gweithio mor galed i greu sefydliad newydd sy'n dysgu oddi wrth ac yn adeiladu ar etifeddiaeth cyn-fudiad y Cyngor Iechyd Cymuned yng Nghymru. Yn gyffredinol, nid yw sefydlu sefydliad newydd yn y cyfnod anoddaf i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus wedi bod yn hawdd. 

Diolchwn i'n staff a'n gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth a'u hamynedd wrth gydweithio a chydag eraill i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio. Maent wedi gwneud hyn ar yr un pryd â chefnogi trosglwyddo gweithgareddau parhaus gan yr 8 corff statudol a oedd yn rhan o hen fudiad y Cyngor Iechyd Cymuned. 

Yn ystod y 100 diwrnod cyntaf, rydym wedi:

  • creu a pharhau i ddatblygu strwythur sefydliad newydd fel y gallwn gyflawni ein swyddogaethau a'n cyfrifoldebau ehangach yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.  Rydym wedi recriwtio i amrywiaeth o rolau newydd yn ein rhanbarthau ac yn genedlaethol. 

Rydym wedi datblygu ein rolau ac wedi mabwysiadu cyfres o drefniadau gweithwyr gyda'r nod o ddenu a chefnogi staff i weithio'n hyblyg ledled Cymru mewn amgylchedd teg a chynhwysol; Darparu amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer datblygu a chynnydd a darparu set ehangach o sgiliau a galluoedd sy'n cyd-fynd ag anghenion amrywiol y bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. 

Drwy ein gweithgareddau recriwtio rydym wedi cynyddu ein gallu i weithio'n ddwyieithog, ac wedi gwneud rhywfaint o gynnydd wrth recriwtio gweithlu mwy amrywiol.  Ond mae gennym lawer mwy i'w wneud yn y maes hwn o hyd, ac i recriwtio'n llwyddiannus i'n holl rolau newydd ac arbenigol.

  • datblygu a lansio ymgyrch i ddenu cymuned amrywiol o bobl i helpu i lunio a chefnogi cyflwyno ein gweithgareddau. Rydym wedi gweithio gyda'n staff, gwirfoddolwyr a WCVA i'n helpu i ddylunio ystod eang o opsiynau gwirfoddoli. Nod y rhain yw darparu ffyrdd hawdd a hyblyg i bobl ymuno â ni a derbyn cefnogaeth - fel y gallant gymryd rhan yn ein gweithgareddau mewn ffyrdd sy'n darparu'r cyd-fynd orau â'n hanghenion a diddordebau ac argaeledd ein gwirfoddolwyr. 

Cymerodd hi'n hirach ein bod am roi rhai o'n trefniadau ar waith i ddiogelu a chefnogi pobl sy'n dod yn wirfoddolwyr. Mae gennym lawer mwy i'w wneud i ddatblygu ein trefniadau ymhellach ac i ddenu a chefnogi fframwaith mwy a mwy hyblyg ar gyfer gwirfoddoli. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu weithio gyda ni mewn ffyrdd eraill. 

  • gweithio gyda'n pobl a'r cyhoedd i'n helpu i ddatblygu ein gwerthoedd sefydliadol a sefydlu diwylliant iach, cynhwysol. Mae ein gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd (y cyfeirir atynt yn gynharach) wedi rhoi cyfleoedd i ni glywed mwy am y pethau sy'n bwysig i bobl am sut rydym yn gweithio. Rydym hefyd wedi gweithio gyda sefydliadau partner i Rydym hefyd wedi gweithio gyda sefydliadau partner i'n helpu i ddeall mwy am y gwerthoedd a'r credoau y mae ein staff a'n gwirfoddolwyr am i'n sefydliad eu cyflawni. 
  • gwrando ar y pethau y mae pobl wedi'u dweud sydd yn cyfrif i ddatblygu a chyhoeddi ein polisi ar degwch, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym am glywed eich adborth a'ch syniadau ar ein dull gweithredu fel y gallwn ei ddatblygu ymhellach.  Gallwch ddarganfod mwy ar y ddolen yma
  • gweithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid a chyflenwyr eraill i gyflwyno a datblygu ymhellach ein ffyrdd digidol o weithio i gefnogi ein gweithgareddau. Dyma un o'r meysydd sydd wedi bod y mwyaf anodd i ni wneud cynnydd yn ein 100 diwrnod cyntaf. 

Mae oedi ac anawsterau wrth gyflwyno systemau a dulliau newydd wedi golygu - er ein bod wedi gallu ymgysylltu â phobl a chymunedau ar-lein drwy e-bost, gwefan a chyfryngau cymdeithasol – ein bod wedi gorfod gwneud hyn mewn ffyrdd sydd wedi bod yn anodd ac yn rhwystredig i bobl weithio gyda nhw.

Diolch i bawb sy'n cymryd rhan, ac yn enwedig ein staff sydd wedi treulio llawer o amser yn rhannu syniadau a gwybodaeth gydag arbenigwyr digidol, rydym wedi gwneud cynnydd, a'n nod yw symud pawb sy'n gweithio gyda ni draw i system ddigidol newydd erbyn diwedd mis Gorffennaf – gan ddarparu'r seilwaith digidol sylfaenol sydd ei angen arnom i gyflawni ein gweithgareddau,  Mae angen llawer mwy o waith eto yn y flwyddyn i ddod. 

Gwrando a gweithredu ar brofiadau pobl o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Drwy gydol ein 100 diwrnod cyntaf, mae ein staff a'n gwirfoddolwyr wedi gweithio i ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru i glywed gan bobl am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cynigion i newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu dylunio a'u darparu. 
Clywsom gan bobl, cynrychiolwyr cymunedol a grwpiau ym mhob rhan o Gymru mewn gwahanol ffyrdd, wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Dyma rai o'r pethau yr ydym wedi'u clywed gennych am eich gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol:

Gallu cael gafael ar y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnoch pan fydd ei angen arnoch

Rydyn ni wedi clywed pa mor bwysig yw hi i chi:

  • deimlo eich bod yn cael eich cefnogi i adael yr ysbyty ar yr adeg iawn, a gyda'r pecyn gofal cywir ar waith i gefnogi eich adferiad a'ch byw'n annibynnol yn eich cartref eich hun
  • gael help i addasu i newidiadau mawr, fel gofalu am eich babi cyntaf, helpu eich hun i aros cystal â phosibl tra byddwch yn aros am driniaeth, neu ddysgu byw gyda chyflwr gydol oes.
  • allu cael cyngor, cefnogaeth a thriniaeth gyflym ac effeithiol (gan gynnwys meddyginiaethau) pan fydd ei angen arnoch, yn enwedig gan eich meddyg teulu, deintydd a fferyllfa leol, pan fydd angen gofal arnoch mewn argyfwng, a phryd y mae angen cymorth arnoch gan eich gweithiwr cymdeithasol 
  • gael gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n teimlo wedi'u cydgysylltu, gyda phawb yn tynnu at ei gilydd
  • i gael eich cefnogi i gadw'n actif yn gorfforol ac yn feddyliol drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi eich lles, gan gynnwys wrth fyw mewn cartref gofal 
  • I allu cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnoch heb orfod teithio'n rhy bell i'w gael, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig neu pan fydd gennych symudedd cyfyngedig 
  • bod gennych rywfaint o barhad yn eich gofal a'ch triniaeth, yn enwedig wrth fyw gyda dementia neu iechyd meddwl gwael
  • dderbyn gofal, triniaeth a chymorth mewn ffordd sy'n eich gweld chi fel person cyfan.

Teimlo eich bod yn cael eich clywed, eich parchu a'ch bod yn derbyn gofal, heb farnu a gyda sensitifrwydd diwylliannol

Rydyn ni wedi clywed pa mor bwysig yw hi i chi a'r rhai rydych chi'n gofalu amdanyn nhw:

  • derbyn gofal tosturiol, yn enwedig wrth gyrraedd diwedd oes
  • teimlo bod rhywun yn gwrando arnoch chi wrth rannu gwybodaeth a siarad am eich cyflwr neu amgylchiadau, ac wrth wneud penderfyniadau am eich gofal a'ch cefnogaeth neu ofal rhywun rydych yn gofalu amdanyn nhw
  • cael eich cefnogi gan staff iechyd a gofal cymdeithasol hyfforddedig sy'n deall am effeithiau trawma 
  • gallu cael y gofal a'r cymorth sydd ei angen arnoch – heb stigma na barn – beth bynnag yw eich amgylchiadau a'ch anghenion unigol
  • ymateb yn gyflym ac yn dda pan fyddwch yn rhannu pryderon am ansawdd neu ddiogelwch gofal, cefnogaeth a thriniaeth
  • derbyn gofal, cefnogaeth neu driniaeth mewn ffordd sy'n parchu'r pethau sydd bwysicaf i chi.

Teimlo'n gyfrifol am eich iechyd a'ch gofal cymdeithasol eich hun

Rydyn ni wedi clywed pa mor bwysig yw hi i chi a'r rhai rydych chi'n gofalu amdanyn nhw:

  • yn gallu cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch am iechyd a gofal cymdeithasol ar yr adeg iawn, yn yr iaith gywir ac yn y ffordd iawn i ddiwallu eich anghenion a'ch amgylchiadau unigol – ac i'ch helpu i wneud eich penderfyniadau eich hun heb orfod dibynnu ar deulu a ffrindiau i'ch helpu, yn enwedig wrth ddelio â materion sensitif a phersonol
  • yn gallu mynegi eich hun yn eich iaith eich hun, gan gynnwys y Gymraeg, fel eich bod yn gallu disgrifio'n well y ffordd rydych chi'n teimlo a'r pethau sydd eu hangen arnoch i'ch helpu chi
  • yn cael y cyfle i gael rheolaeth dros eich anghenion iechyd a gofal cymdeithasol eich hun, cymaint ag y dymunwch ac y gallwch.We’ve heard how important it is that you and those you care about:

Rydym hefyd wedi clywed pa mor bryderus yw pobl am y prinder yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, y pwysau y mae hyn yn ei roi ar staff iechyd a gofal cymdeithasol ymroddedig, ac effeithiau hyn ar argaeledd ac ansawdd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddwn yn darparu gwybodaeth fanylach am yr hyn yr ydym wedi'i glywed ledled Cymru yn ein 100 diwrnod cyntaf mewn adroddiad ar wahân

Cefnogi pobl i fynegi eu pryderon am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol drwy ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion annibynnol

Mae ein timau eiriolaeth cwynion wedi cefnogi pobl ledled Cymru i ddatblygu eu pryderon am eu hiechyd a'u gwasanaethau cymdeithasol gyda'r cyrff sy'n darparu neu'n gyfrifol am eu hiechyd a'u gwasanaethau cymdeithasol. Roedd rhai o'r bobl a gefnogwyd gennym yn cael cefnogaeth gan yr hen Gynghorau Iechyd Cymuned, ac felly fe wnaethom barhau i roi'r cyngor, yr help a'r gefnogaeth yr oedd eu hangen arnynt.

Yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf, rydym wedi darparu cymorth i bobl fwrw ymlaen â 358 o bryderon, ac wedi ymateb i 317 o ymholiadau unigol gan bobl sydd eisiau darganfod mwy am eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Delwedd
Advocacy support

Hyd yn hyn, mae'r rhan fwyaf o'r pethau y mae pobl wedi gofyn i ni eu cefnogi i fwrw ymlaen â'u pryderon wedi bod ynghylch gwasanaethau'r GIG. O'r 358 o bryderon, mae 67 wedi bod yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol, a 291 am wasanaethau'r GIG. Roedd rhai o'r pethau yr oedd pobl eisiau codi pryderon am eu gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud ag asesiadau anghenion gofal, mynediad at wasanaethau cymdeithasol a'r ffordd y cafodd eu gwasanaethau eu darparu.

Roedd rhai o'r pethau yr oedd pobl eisiau codi pryderon am eu gwasanaethau'r GIG yn ymwneud â mynediad at ofal, cymorth a thriniaeth, canslo, diagnosis, a thrin cwynion.

Byddwn yn darparu gwybodaeth fanylach am ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion yn ein 100 diwrnod cyntaf mewn adroddiad ar wahân.

Ymateb i'r hyn rydym wedi'i glywed gennych chi am eich gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Rydym wedi bod yn rhannu'r pethau yr ydym wedi'u clywed gan bobl gyda'r GIG, awdurdodau lleol, a llunwyr penderfyniadau eraill yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Rydym wedi gwneud hyn fel bod barn a phrofiadau pobl yn ysgogi datblygiad a darpariaeth gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bawb. Mae mwy i'w wneud i ddatblygu sut rydym yn gwneud hyn ledled Cymru yn rheolaidd mewn ffyrdd sydd â'r cyfle gorau i wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Yn ogystal â chodi pryderon unigol pobl drwy ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion, dyma rai enghreifftiau o bethau yr ydym wedi'u codi am wasanaethau a ddarperir yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae rhai o'r rhain wedi bod yn ymwneud â chynigion i newid y ffordd y mae gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynllunio a'u darparu: 

arrangements and support for people affected by failures in vascular care provided by Betsi Cadwaladr University Health Board

  • trefniadau a chymorth i bobl sy'n cael eu heffeithio gan fethiannau mewn gofal fasgwlar a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • cynigion i newid y ffordd y mae gwasanaethau meddygon teulu yn cael eu darparu i lawer o bobl sy'n byw mewn gwahanol rannau o Gymru
  • cynigion i wneud newidiadau dros dro i rai gwasanaethau ysbyty oherwydd prinder staff
  • datblygiadau a chynigion yn y ffordd y darperir gwasanaethau ar gyfer pobl sydd angen mynediad at wasanaethau ffrwythlondeb a gwasanaethau hunaniaeth rhywedd. 

Anfonwyd rhywfaint o dystiolaeth i Ymchwiliad Covid-19 y DU ar yr hyn a glywodd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru gan bobl sy’n byw yng Nghymru am eu profiadau o bandemig Covid-19.

Fe wnaethom hefyd rannu’r hyn a glywsom am farn a phrofiadau pobl o wasanaethau’r GIG, a sut roedd cyrff y GIG yn ymateb i anghenion pobl a chymunedau gyda chyrff eraill sy'n ymwneud â sbarduno gwelliant mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gwnaethom hyn trwy ein rhan mewn cyfres o Uwchgynadleddau Gofal Iechyd. 

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn hwyluso'r uwchgynadleddau hyn. Maent yn rhoi cyfle rheolaidd i ystod eang o gyrff rannu gwybodaeth am yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn sydd angen ei wella mewn cyrff unigol y GIG ac yn y GIG yng Nghymru gyfan.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Fe fyddwn yn:

  • parhau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o Llais a'n gwasanaethau
  • parhau i wrando a gweithredu ar brofiadau pobl o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y GIG ac Awdurdodau Lleol yn ystyried eich adborth yn ystyrlon. 
  • creu ffyrdd newydd a hygyrch o ymgysylltu a chasglu eich meddyliau a'ch profiadau am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • parhau i ddatblygu ein partneriaethau a nodi mwy o gyfleoedd i gydweithio â sefydliadau eraill
  • datblygu ymhellach sut rydym yn darparu ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion drwy ddysgu o'ch adborth 
  • defnyddio’r hyn rydym wedi'i ddysgu yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf i ddatblygu:
    • Ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a'n pwrpas 
    • Ein gwerthoedd, ein hymddygiad a'n ffordd o weithio 
    • Ein strategaeth sefydliadol sydd yn nodi ein nodau tymor hwy. 

Byddwn yn parhau i roi gwybod i chi am ein cynlluniau, ein blaenoriaethau a'n gweithgareddau am weddill y flwyddyn yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, a sut y gallwch gymryd rhan.