Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Llawlyfr Gwirfoddolwr
Cymerwch amser i ddarllen y llawlyfr a dewch yn ôl ato pan fo angen. Mae’n dweud wrthych pwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud, ac yn nodi’r polisïau a’r prosesau sydd gennym ar waith i’ch cefnogi a’ch diogelu chi ac eraill.
Blwyddyn o Wrando: Adroddiad Llais Caerdydd a'r Fro 2023 2024
Mae'r adroddiad hwn yn dangos yr hyn y mae rhanbarth Caerdydd a'r Fro wedi'i wneud yn eu blwyddyn gyntaf fel Llais, a'r hyn yr ydym wedi'i glywed gan bobl sy'n byw yn ein hardal.
Ymgysylltu Llais Gorllewin Cymru - Canolfan Antioch, Llanelli
O 20 Mai 2024, bydd y rhan fwyaf o wasanaethau prawf gwaed ar gyfer pobl sy'n byw yn ardal Llanelli yn cael eu darparu o'r Ganolfan Brechu Dorfol yn Nafen, Llanelli.
Symud gwasanaethau prawf gwaed o Ganolfan Antioch i Ddafen yw ymateb y Bwrdd Iechyd i adborth gan gleifion sydd wedi codi pryderon am y gwasanaeth yn Llanelli. Mae cleifion wedi rhannu adborth o'r blaen ar y diffyg lleoedd parcio, lle i gleifion sy'n aros am eu hapwyntiad, a hyd y rhestr aros.
Symudiad dros dro yw symud i’r Ganolfan Brechu Dorfol yn Nafen, a bydd yr uchelgais hirdymor yn cynnwys symud y gwasanaeth i fod yn rhan o ddatblygiad Pentre Awel yn 2025.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi trefnu 2 sesiwn galw heibio ac wedi gofyn i ddefnyddwyr gwasanaeth gwblhau arolwg papur a/neu ar-lein erbyn 26 Mehefin 2024.