Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Caerdydd a’r Fro

Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol:

  • Caerdydd
  • Bro Morgannwg
CYSYLLTWCH Â NI
Swyddfeydd

Llais - Rhanbarth Caerdydd a'r Fro
Adeiladau'r Coron, Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Cyfarwyddiadau
Delwedd
Cardiff and Vale

Yr hyn a wnawn

Mae Llais Rhanbarth Caerdydd a'r Fro yma i wneud yn siŵr bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn defnyddio’ch barn a’ch profiadau i gynllunio a darparu gwell gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn eich ardal leol.

Rydym yn clywed gan y cyhoedd mewn llawer o wahanol ffyrdd. Rydym yn ymweld â'r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol i siarad â chleifion, preswylwyr a gofalwyr. Rydym yn siarad â phobl mewn digwyddiadau cyhoeddus, a thrwy grwpiau cymunedol.

Mae ein Gwasanaeth Eiriolaeth yn helpu pobl sydd eisiau codi pryder am ofal neu driniaeth.

Rydyn ni'n defnyddio arolygon, apiau a chyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â'n cymuned, ac rydyn ni'n cynhyrchu adroddiadau ar yr hyn rydyn ni wedi'i glywed.

Beth sy'n digwydd yn eich ardal

Gweld pob digwyddiad

Ni chanfuwyd unrhyw ddigwyddiadau. Gweld pob digwyddiad

Woman speaking at support group
NODWEDDOL

Ydych chi'n defnyddio gwasanaethau'r GIG neu ofal cymdeithasol?

Yna gallwch chi helpu i'w gwneud yn well i bawb trwy ddweud wrthym am eich profiadau - da a drwg.

Rhannwch eich stori

Adroddiadau diweddar

Gweld pob cyhoeddiad
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024-2025

Yn ein hail flwyddyn, mae Llais wedi cynyddu ei rôl fel llais annibynnol y bobl ym maes iechyd a gofal cymdeithasol drwy glywed gan fwy na 40,000 o bobl ledled Cymru. O wasanaethau mamolaeth a gofal brys i gefnogaeth i ofalwyr a mynediad at ddeintyddiaeth, mae pobl wedi rhannu eu profiadau gyda gonestrwydd, brys a gobaith. Y tu ôl i bob llais mae stori, a thu ôl i bob stori mae gwers i’w dysgu neu alwad i weithredu.

Ac rydym wedi gweithredu. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun clir o’n gwaith a’n heffaith.

11 Tachwedd 2025
Caerdydd a’r FroCastell Nedd Port Talbot ac AbertaweCwm Taf MorgannwgGogledd CymruGorllewin CymruGwentPowys
Ymateb Llais i ymgynghoriad: Strategaeth genedlaethol ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin rhywiol plant

Rydym wedi bod yn gweithredu yng Nghymru ers 1 Ebrill 2023. Mae ein hymateb yn tynnu ar yr hyn rydyn ni wedi'i glywed gan bobl am eu profiadau o wasanaethau iechyd a chymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn. Mae'n adlewyrchu ein rôl o ran cefnogi pobl drwy eiriolaeth cwynion, ein gweithgareddau ymgysylltu ehangach, a gwneud cynrychioliadau i wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys diogelu, gwasanaethau cymorth ac integreiddio systemau.

14 Hydref 2025
Caerdydd a’r FroCastell Nedd Port Talbot ac AbertaweCwm Taf MorgannwgGogledd CymruGorllewin CymruGwentPowys

Codi pryder am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Pan aiff pethau o chwith, gall codi eich pryder ymddangos yn “gam yn rhy bell” neu’n cymryd gormod o amser, yn enwedig gan y gallai fod ar adeg arbennig o anodd.

Ond mae codi eich pryder yn y ffordd gywir yn bwysig. Gall wneud gwahaniaeth cadarnhaol i eraill, gan atal yr un peth rhag digwydd iddynt a sicrhau bod ein gofal yn y dyfodol yn well.

Gallwn helpu gydag eiriolaeth cwynion

Os oes angen i chi godi pryder am wasanaeth GIG neu ofal cymdeithasol, gallwch siarad â ni. Bydd ein staff eirioli cwynion ymroddedig, hyfforddedig yn darparu'r cymorth annibynnol a chyfrinachol am ddim y mae gennych hawl iddo.

Cysylltwch â ni ar
02920 750112
neu e-bostiwch ni ar [email protected]

a bydd un o'n tîm yn siarad â chi am eich pryder, pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch yn eich barn chi ac os oes gennych unrhyw anghenion penodol megis deunyddiau print bras neu fynediad at rywun sy'n gallu llofnodi.