Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Ymateb Llais Gorllewin Cymru i Ymgynghoriad Cyhoeddus Gwasanaethau Paediatreg
Rydym yn ysgrifennu i nodi ein hargymhellion yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn ymwneud â gwasanaethau pediatrig ac i ddarparu sylwebaeth gytbwys ar y materion a'r themâu a nodwyd.
Byddwn yn parhau i gynrychioli barn y cyhoedd drwy gamau nesaf y rhaglen hon ac yn parhau i groesawu sylwadau a barn y cyhoedd wrth i ni wneud hynny.
Mynychodd Llais bob un o'r digwyddiadau galw heibio a digwyddiadau ar-lein ymgynghori cyhoeddus. Rydym hefyd wedi monitro sylwadau cyfryngau cymdeithasol lle bo hynny'n bosibl. Roeddem yn teimlo bod dull y Bwrdd Iechyd yn dda iawn a bod cynnwys y cyhoedd yng nghamau cynnar y dylunio cyn ymgynghori yn ystyrlon.