Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Blaenoriaeth 01: Gwrando a chynrychioli eich barn i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wneud gwahaniaeth

Ffyrdd o weithio Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a fydd yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith hwn yw:
Cydweithio // Cynnwys 

I wneud i hyn ddigwydd byddwn yn:

Parhau i gynrychioli eich lleisiau drwy ein hymwneud â chyfarfodydd, byrddau, pwyllgorau a phrosiectau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Gwrando ar eich barn yn barhaus ac yn agored yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol trwy gyflwyno rhaglen dreigl o ymgysylltu agored i ddarganfod beth sydd bwysicaf am eich iechyd a gofal cymdeithasol.

Ymateb ar eich rhan i faterion newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg y clywn amdanynt.

Creu tîm newydd fel y gallwn:

- dysgu o’r hyn yr ydym yn ei glywed yn lleol, yn rhanbarthol, ac yn genedlaethol
- dod yn well am ddeall a defnyddio gwybodaeth gan eraill i’n helpu i gynllunio a cyflawni ein gwaith
- creu ffyrdd o gasglu a defnyddio ffynonellau newydd o ddata
- gwneud achos pwerus dros newid fel bod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwrando ac yn gweithredu ar y pethau sy’n bwysig
- rhoi wybod i bobl beth rydym wedi bod yn ei wneud a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud

Sut olwg allai fod ar lwyddiant?

Mae ein pobl a’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw yn teimlo bod eu blaenoriaethau’n cael eu hadlewyrchu yn ein cynlluniau gwaith ac maen nhw wedi cael dweud eu dweud wrth lunio blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Bydd ffyrdd gwell o gasglu eich barn am eich gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu i adeiladu ein hyder wrth weithio gydag eraill i helpu i wneud y gwahaniaeth mwyaf yn y ffordd y darperir eich gwasanaethau.

 

>> Blaenoriaeth 02: Meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud a sut rydym yn gwneud gwahaniaeth